Memorandwm Esboniadol i Orchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2020

Mae’r Memorandwm Esboniadol hwn wedi’i baratoi gan Adran yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol a chaiff ei roi ger bron y Cynulliad Cenedlaethol gyda’r is-ddeddfwriaeth uchod ac yn unol â Rheol Sefydlog 27.1.

Datganiad y Gweinidog

Yn fy marn i, mae’r Memorandwm Esboniadol hwn yn farn deg a rhesymol o effaith ddisgwyliedig Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2020.

 

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
14 Ionawr 2020

 

 


 

1. Disgrifiad

1.1 Mae Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Deddf 2010) yn ymwneud â darpariaethau ar gyfer draenio cynaliadwy (SuDS).  Yn eu plith y mae sefydlu Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SAB) i’w sefydlu o fewn awdurdodau lleol law yn llaw â’u dyletswydd fel y prif awdurdod llifogydd lleol (LLFA).  Bydd angen cymeradwyaeth y SAB cyn dechrau adeiladu systemau draenio ar safleoedd newydd neu safleoedd sy’n cael eu hailddatblygu.

1.2 Mae Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018 (“Gorchymyn 2018”) yn darparu ar gyfer gorfodi pan eir yn groes i’r gymeradwyaeth sy’n ofynnol (“y gofyn i gymeradwyo”) o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 o Ddeddf 2010 mewn cysylltiad â systemau draenio ar gyfer gwaith adeiladu.

1.3 Mae Erthygl 21 o Orchymyn 2018 yn ei gwneud yn drosedd peidio â chydymffurfio â hysbysiad stop dros dro, hysbysiad gorfodi neu hysbysiad stop.

1.4 Mae Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn newid terfyn ariannol y ddirwy a roddir o gael euogfarn ddiannod, hynny er mwyn ei gysoni â’r dirwyon diderfyn am droseddau y caiff Llysoedd Ynadon eu gosod yn sgil Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012.

1.5 Nid yw’r diwygiad yn cynyddu lefel y ddirwy y gellir ei gosod am y troseddau hyn ond bydd yn effeithio ar benderfyniad y Llys Ynadon o ran a yw ei bwerau dedfrydu yn ddigonol ar gyfer rhoi dedfryd neu a oes angen anfon yr achos i Lys y Goron ar gyfer dedfryd gan fod gan Lys y Goron y pŵer i roi dirwy ddiderfyn (mae Llys y Goron yn cadw ei bŵer i osod dirwyon diderfyn am y troseddau hyn). Gall achosion gael eu hanfon i Lys y Goron yn unol â’r canllawiau perthnasol a luniwyd gan y Cyngor Canllawiau Dedfrydu lle y bo’n briodol.

 

2. Materion o ddiddordeb arbennig i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

2.1 Mae’r gorchymyn hwn yn disodli fersiwn ddrafft Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2019. Er y cafodd y Gorchymyn hwn ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ni chafodd ei wneud gan nad oedd modd ei ddwyn i rym yn sgil camgymeriad drafftio.

 

3. Cefndir deddfwriaethol

3.1 Gwneir y gorchymyn hwn trwy’r pwerau a roddir gan adrannau 32 a 48(2) Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 a pharagraffau 4(a) ac 14 o’i Hatodiad 3. 

3.2 Yn unol â pharagraff 14(5)(b) o Atodlen 3 y Ddeddf honno, mae’r offeryn hwn yn dilyn gweithdrefn gadarnhaol y Cynulliad.

4. Pwrpas ac effaith fwriedig y ddeddfwriaeth

4.1 Mae Erthygl 21 o Orchymyn 2018 yn cyfyngu ar faint y ddirwy y gellir ei rhoi mewn achos diannod am y drosedd o beidio â chydymffurfio â hysbysiad stop dros dro, hysbysiad gorfodi neu hysbysiad stop, i uchafswm o £20,000.

 

4.2 Cafodd Gorchymyn 2018 ei ysgrifennu cyn cychwyn adran 85(1) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 (LASPO) ond ni ddaeth i rym tan ar ôl hynny ac ni ddaeth felly o dan effaith y ddarpariaeth honno.  Roedd LASPO yn dileu terfyn uchaf y dirwyon y câi Llysoedd Ynadon eu rhoi am bob bron pob trosedd.

 

4.3 Er mwyn sicrhau cysondeb â throseddau eraill o natur debyg, mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018 er mwyn darparu dirwy ddiderfyn ar gyfer y troseddau a nodir yn erthygl 21 o’r Gorchymyn hwnnw pan fydd y Llys Ynadon yn ymdrin â hwy. Mae’r newid hwn yn golygu y caiff Llys Ynadon roi dirwy ddiderfyn felly mae ganddo y pŵer ar gyfer dedfrydu ystod ehangach o achosion. Mae’r diwygiad hwn yn gyson â’r geiriad sydd wedi’i fewnosod mewn deddfwriaeth arall gan LASPO.

 

5. Ymgynghori

5.1 Gan fod y Gorchymyn yn gwneud newid technegol nad yw’n adlewyrchu newid ym mholisi Llywodraeth Cymru ac nad yw’n cynyddu lefelau dedfrydu, nid oes angen cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol.

 

6. Asesiad Effaith Rheoleiddiol (RIA)

6.1 Gan mai bach iawn fydd effaith y newid i Orchymyn 2018 ar wasanaethau yng Nghymru, nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi’i gynnal.

 

7. Asesiad o’r Gystadleuaeth

7.1 Nid yw hyn yn gymwys.

 

8. Adolygiad ar ôl ei roi ar waith

8.1 Nid yw hyn yn gymwys.